3.2km linear Step by Step walk at Goytre Wharf, Mon & Brec
Starting at Goytre Wharf, this linear walk to Pentre Bridge is 3.2km long or 2 miles.
This Step by Step route is a series of short stages, with breaks at points of interest. There’s plenty to see without walking the whole route. Why not start with a short walk and come back again to explore further?
The towpath is surfaced for all weather walking. View our film below for a taster of the route along the Mon & Brec.
Start point: Goytre Wharf, NP7 9EW
End point: NP4 8RJ (approx)
Distance: 3.2km or 2m
The route
1. Start at Goytre Wharf, where you'll see the lime kilns, walk under the aqueduct. There is a steep ramp on your left up to the towpath.
2. At Saron Bridge 0.6km/0.4m in, notice the stop planks that are placed under the bridge and used for maintenance work.
3. At 1km/0.6m, notice the stone steps at Penyrheol Bridge.
4. Pass under Park-y-Brain Upper Bridge at 1.4km/0.9m.
5. At 1.6km/1m you pass Park-y-Brain Lower Bridge, look out for a Great Western Railway diamond shaped weight restriction sign from 1880. Also make time to enjoy all the oak and alder trees along this part of the canal.
6. At 2km/1.3m, you'll pass Birdspool Bridge.
7. At 2.6km/1.6m, you'll pass High House Bridge and local mooring and facilities.
8. At 2.9km/1.8m, you'll come to Croes-y-Pant Bridge. Here marks the boundary of the Brecon Beacons National Park and look out for the London and Northwestern Railway sign on the road above.
9. Finally at 3.2km/2m, you'll finish your walk at Pentre Bridge.
Gallery
Cam wrth Gam – taith gerdded unffordd 3.2km yng Nglanfa Goetre, Camlas Mynwy ac Aberhonddu
Gan gychwyn yng Nglanfa Goetre, mae’r llwybr unffordd hwn i Bont Pentre yn 3.2km neu 2 filltir o hyd.
Cyfres o gamau byrion â llefydd o ddiddordeb i gael hoe fach yw’r daith Cam wrth Gam hon. Mae digonedd i’w weld heb orfod cerdded o un pen i’r llall. Beth am ddechrau gyda thaith fer a dychwelyd rhywbryd eto i grwydro ymhellach?
Mae’r llwybr tynnu yn addas at bob tywydd. Gwyliwch ein ffilm isod am flas o’r daith ar lannau Camlas Mynwy ac Aberhonddu.
Cychwyn: Glanfa Goetre, NP7 9EW
Gorffen: NP4 8RJ (yn fras)
Pellter: 3.2km neu 2m
Y llwybr
- Dechreuwch yng Nglanfa Goetre, lle mae’r odynau calch, ac ewch o dan y ddyfrbont. Mae yna ramp serth ar y chwith yn mynd i fyny’r llwybr tynnu.
- Ym Mhont Saron 0.6km/0.4m, sylwch ar y planciau stopio o dan y bont sy’n cael eu defnyddio ar gyfer gwaith cynnal a chadw.
- Ar ôl 1km/0.6m, sylwch ar risiau carreg Pont Pen-y-rheol.
- Ewch o dan Bont Uchaf Parc-y-brain erbyn 1.4km/0.9m.
- Ar ôl 1.6km/1m byddwch yn pasio Pont Isaf Parc-y-brain – lle mae arwydd cyfyngiad pwysau siâp diemwnt cwmni Great Western Railway (1880). Beth am oedi i fwynhau’r holl gyfoeth o goed derw a gwern ar hyd y rhan hon o’r gamlas?
- Erbyn 2km/1.3m, byddwch yn pasio Pont Birdspool.
- Erbyn 2.6km/1.6m, byddwch yn pasio Pont High House gyda mannau angori a chyfleusterau cyfagos.
- Erbyn 2.9km/1.8m, byddwch yn cyrraedd Pont Croes-y-pant. Dyma ffin Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – sylwch ar arwydd cwmni London and Northwestern Railway ar y lôn uwchben.
- Diwedd y daith ym Mhont Pentre 3.2km/2m.